Wales - Hen Wlad Fy Nhadau (Welsh National Anthem) Tabs

Wales - Hen Wlad Fy Nhadau (Welsh National Anthem)

Titel: Hen Wlad fy Nhadau
Ondertitel:
Artiest:
Album:
Auteur: Garry Williams
Auteursrecht:
Getranscribeerd door:
Instructies: To be played at maximum volume atop Cadair Idris
Opmerkingen: Adapted from a midi file by Barry Taylor

Tempo: 87 BPM
Sporen: 7
Instrumenten:
Maten: 46
Bestand: Wales - Hen Wlad Fy Nhadau (Welsh National Anthem).gp4
Tekst
Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi,
Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri;
Ei gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mad,
Dros ryddid collasant eu gwaed.

Gwlad, gwlad, pleidiol wyf i'm gwlad.
Tra môr yn fur i'r bur hoff bau,
O bydded i'r hen iaith barhau.

Hen Gymru fynyddig, paradwys y bardd,
Pob dyffryn, pob clogwyn, i'm golwg sydd hardd;
Trwy deimlad gwladgarol, mor swynol yw si
Ei nentydd, afonydd, i mi.

Gwlad, gwlad, pleidiol wyf i'm gwlad.
Tra môr yn fur i'r bur hoff bau,
O bydded i'r hen iaith barhau.

Os treisiodd y gelyn fy ngwlad tan ei droed,
Mae hen iaith y Cymry mor fyw ag erioed,
Ni luddiwyd yr awen gan erchyll law brad,
Na thelyn berseiniol fy ngwlad.


Gwlad, gwlad, pleidiol wyf i'm gwlad.
Tra môr yn fur i'r bur hoff bau,
O bydded i'r hen iaith barhau.